1 Timothy 6:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ir hwn yn vnic i may difarwoldeb, ac yn trigo yn y goleuni diymgyrch, rrwn irioed nis gweles vn dyn, ac nis dichin i weled, ir hwn i bo anrrydedd a’ gallu yn dragwyddawl, Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn yn unig sydd a Chanddo anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni na ellir dyfod atto, yr Hwn ni welodd neb o ddynion nac a all Ei weled, i’r Hwn y bo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ef yn unig biau anfarwoldeb; ei gyfannedd yw’r goleuni na ellir nesáu ato, nas gwelodd un dyn, ac na all chwaith ei weled. Iddo ef y bo anrhydedd a gallu yn oes oesoedd, Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fe ydy'r unig un sy'n anfarwol yn ei hanfod. Mae'n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi ei weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae'n preswylio. Nid oes neb wedi ei weld, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn yn unig sydd ganddo Anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni nas gellir dyfod atto, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac nis dichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen.