1 Timothy 6:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hei sy oludawc yn y byd yma gorchymmyn vddynt, na boont rryfygus eu meddwl, ac na rothon ei, gobaith mewn golud anwadal, eithyr mewn Duw byw, (rhwn syn rroi i ni pop peth yn ddigonawl yw mwynhau)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I’r rhai goludog yn y byd presennol, gorchymyn na b’ont uchel feddwl, ac na obeithiont yn anamlygrwydd golud, eithr yn Nuw, yr Hwn sy’n rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y rhai sydd gyfoethog yn y byd presennol, rhybuddia na bônt uchelfryd, na gosod chwaith eu gobaith ar ansicrwydd golud, eithr yn hytrach ar Dduw, sydd yn darpar yn gyfoethog bopeth inni i’w mwynhau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gorchymyn i'r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i'w mwynhau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy'r un i ymddiried ynddo. Mae'n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sy'n rhoi inni yn helaeth bob peth i'w fwynhau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gorchymyn i'r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel‐feddwl, ac na osodont eu gobaith ar olud anwadal, eithr ar Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog, er mwynhâd;