1 Timothy 6:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ar wneuthyd o honyn ddayoni, ac ymgyvoethogi o weithredoedd da, ac yn hawdd canthyn roi, ac yn havvdd i cydfod,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
er mwynhad; ar wneuthur o honynt ddaioni; ar fod yn oludog mewn gweithredoedd da, ar fod yn barod i ddosbarthu, yn chwannog i gyfrannu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gwneuthur daioni, bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael a pharod i rannu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrthyn nhw am ddefnyddio'u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ar iddynt wneuthur daioni, ac ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, bod yn gyfranwyr da, ac yn gymdeithasgar,