1 Timothy 6:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn storio yðynt i hunain sail da rag llaw, mal i gallont gavayly y bowydd tragwyddol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr hyn sydd ar fedr dyfod, fel y caffont afael ar y gwir fywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn y dyfodol, fel y cymerant afael ar y bywyd sydd yn fywyd yn wir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth wneud hynny byddan nhw'n casglu trysor go iawn iddyn nhw eu hunain — sylfaen gadarn i'r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu'r bywyd sydd yn fywyd yn wir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan drysori iddynt eu hunain sail dda ar gyfer y dyfodol, fel y caffont afael ar y bywyd gwirioneddol.