1 Timothy 6:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rrei ’sy a meistred vðynt yn credu, na dystyrant hwynt, herwydd i bod yn vrodyr, eithr yn hytrach i gwasneuthu, ir mwyn i bod yn credu, ac yn garedigion, ac yn gyfrānoc or twrn da. Dysc y pethau hyn, a’ chynghora.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai sydd a chredinwyr yn feistriaid, na ddirmygont hwynt am mai brodyr ydynt; eithr gwasanaethont yn fwy am mai credinwyr ac anwylyd yw’r rhai sydd gyfrannogion o’r lleshad. Y pethau hyn dysg a chynghora.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nac aed y rhai y mae ganddynt gredinwyr o feistriaid yn eofn arnynt, am eu bod yn frodyr, eithr rhoddent wasanaeth rhagorach, am fod y rhai sy’n cyfranogi o’u rhagorwaith yn gredinwyr ac anwyliaid. Y pethau hyn, addysga ac annog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o'r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A ddylid dim dangos llai o barch at y meistri hynny sy'n Gristnogion am eu bod nhw'n frodyr. Fel arall yn hollol — dylid gweithio'n galetach iddyn nhw, am fod y rhai sy'n elwa o'u gwasanaeth yn gredinwyr, ac yn annwyl yn eu golwg nhw. Dysga bobl ac annog nhw i wneud hyn i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni ddylai'r rhai sydd 'u meistri'n gredinwyr roi llai o barch iddynt am eu bod yn gyd-gredinwyr. Yn hytrach, dylent roi gwell gwasanaeth iddynt am mai credinwyr sy'n annwyl ganddynt yw'r rhai fydd yn elwa ar eu hymroddiad. Dyma'r pethau yr wyt ti i'w dysgu a'u cymell.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai sydd ganddynt feistriaid crediniol, na ddiystyrent hwynt am eu bod yn frodyr, ond gwasanaethent hwy yn fwy, am fod y rhai sydd yn gyfrannogion o'r lleshâd yn gredinwyr ac yn anwyliaid. Y pethau hyn dysg a chynghora.