1 Timothy 6:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
rron rrai yn ymaddaw a hi, a gam wyrasont or ffydd. Gras gida thi, Amen. Yr Epistl gynta i Tymotheus, a yscrifennwyd o laodiceia, rron yw penn dynas Phrygia Pacatiana.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hon rhai yn ei phroffesu, bu iddynt, o ran y ffydd, fethu taro’r nod. Gras fyddo gyda chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wrth broffesu hon collodd rhai eu gafael ar y ffydd. Gras fyddo gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen. Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth mae rhai yn ei broffesu, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi crwydro oddi wrth beth sy'n wir. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae rhai sy'n proffesu'r wybodaeth hon wedi gwyro ymhell oddi wrth y ffydd. Gras fyddo gyda chwi!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hon, a rhai yn ei phroffesu, hwy, mewn perthynas i'r Ffydd, a ŵyrasant oddiwrth y nod. Gras fyddo gyda chwi.