1 Timothy 6:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
chwyddo i may heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch questiwnay a dadl‐geiriau, or hyn i mac cenvigen, ymryson, ym senneu, tybieu drwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
chwyddo y mae, heb ddim gwybodaeth ganddo, eithr yn afiach ynghylch cwestiynau ac ymrysonau ynghylch geiriau, o’r rhai y cyfyd cynfigen, cynhen, cableddau, meddyliau drwg-cecraethau dynion llygredig eu meddwl ac wedi colli’r gwirionedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
chwyddedig yw ef heb ddeall dim, ond dan glefyd holi cwestiynau a dadlau; hyn sy’n peri cenfigen, ymryson, enllibau, drwgdybiau anfad, a chroesdynnu parhaus
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n amlwg fod person felly yn llawn ohono'i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae'n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o'u gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae hwnnw'n llawn balchder, heb ddeall dim, ag awydd afiach ynddo i godi cwestiynau a dadlau am eiriau. Cenfigen a chynnen ac enllib, a drwgdybio cywilyddus ac anghydweld parhaus, sy'n dod o bethau felly,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y mae wedi ei dywyllu, heb wybod dim, ond yn pendroni ynghylch cwestiynau ac ymryssonau ynghylch geiriau, o'r rhai y cyfyd cenfigen, cynhen, cabl‐eiriau, drwg‐dybiau,