1 Timothy 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ofer ddadlay dynion llygredig ey meddwl, wedy cyfergolli y gwir centhynt, yn tybiaid taw elw yw duwioliaeth, ymochel oddiwrth y cyfryw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn tybied mai modd i ynnill yw duwioldeb;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
dynion dirywiedig eu meddwl ac amddifad o’r gwirionedd, sydd yn tybied mai elw yw duwioldeb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi eu llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy'n wir. Dydy byw'n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
mewn pobl sydd 'u meddyliau wedi eu llygru ac sydd wedi eu hamddifadu o'r gwirionedd, rhai sy'n tybio mai modd i ennill cyfoeth yw bywyd duwiol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ymrafaelion dibaid dynion llygredig eu meddwl, ac yn amddifad o'r gwirionedd, y rhai a dybiant fod duwioldeb yn ffynnonnell elw.