1 Timothy 6:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr yr ei a fynnent ymgwaythogi, a gwympant i profedigaeth, ac i vagl e, ac i lawer o drachwantay ffolion a’ niweidus, rrain syn boddi dynion i golledigaeth ac i ddistriw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y rhai a fynnant fyned yn oludog, syrthio y maent i brofedigaeth a magl a chwantau ynfyd a niweidiol lawer, y rhai sy’n boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr y rhai a chwennych fod yn gyfoethog, syrthiant i brofedigaeth a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, sy’n soddi dynion i ddistryw a cholledigaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r rhai sydd am fod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiynau a maglau, a llu o chwantau direswm a niweidiol, sy'n hyrddio pobl i lawr i ddistryw a cholledigaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y rhai a fynnant ymgyfoethogi a syrthiant i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, yn gyfryw ag sydd yn suddo dynion i ddinystr a cholledigaeth;