2 Chronicles 1:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd DUW wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y'th osodais yn frenin arnynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn — a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Duw wrth Solomon, "Gan mai dyma dy ddymuniad, ac na ofynnaist am gyfoeth na golud nac anrhydedd, nac einioes dy elynion, na hir oes i ti dy hun, ond yn hytrach am ddoethineb a deall i farnu fy mhobl y gwneuthum di'n frenin arnynt,