2 Chronicles 1:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Solomon a'r holl dyrfa gydag ef a aethant i'r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod DUW, yr hon a wnaethai Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna ble roedd Pabell Presenoldeb Duw — yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei gwneud yn yr anialwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth ef a'r gynulleidfa i gyd i'r uchelfa yn Gibeon, oherwydd yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, a wnaeth Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.