2 Chronicles 1:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr arch DUW a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i'r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearim i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi ei baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd arch Duw wedi ei chludo gan Ddafydd o Ciriath-jearim i'r lle a ddarparodd ar ei chyfer, sef y babell a gododd yn Jerwsalem.