2 Chronicles 10:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o'r Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jeroboam fab Nebat yn yr Aifft ar y pryd. Roedd wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yno pan glywodd beth oedd yn digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, dychwelodd oddi yno.