2 Chronicles 11:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Rehoboam yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd dylwythau Jwda a Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam.