2 Chronicles 11:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Rehoboam yn caru Maacha (merch Absalom) fwy na'i wragedd eraill a'i gariadon. (Roedd ganddo un deg wyth o wragedd a chwe deg o bartneriaid, a cafodd dau ddeg wyth o feibion a chwe deg o ferched.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Rehoboam yn caru Maacha ferch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchwragedd. Yr oedd ganddo ddeunaw o wragedd a thrigain o ordderchwragedd, ac fe genhedlodd wyth ar hugain o feibion a thrigain o ferched.