2 Chronicles 12:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Jerwsalem, ac a deyrnasodd: a mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naama, Ammones.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Rehoboam yn cryfhau ei deyrnas yn Jerwsalem. Roedd e'n bedwar deg un mlwydd oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg a saith o flynyddoedd. Jerwsalem, y ddinas roedd yr ARGLWYDD wedi dewis byw ynddi o holl lwythau Israel. Enw mam Rehoboam oedd Naäma, ac roedd hi'n dod o wlad Ammon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sicrhaodd y Brenin Rehoboam ei afael ar Jerwsalem a theyrnasu yno. Yr oedd yn un a deugain oed pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.