2 Chronicles 12:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Chwi a'm gwrthodasoch i, am hynny myfi a'ch gadewais chwi yn llaw Sisac.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda, a oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem o achos Sisac, a dywedodd wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr ydych chwi wedi cefnu arnaf fi; felly yr wyf finnau wedi cefnu arnoch chwi a'ch rhoi yn llaw Sisac.'"