2 Chronicles 12:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia a dweud, "Am iddynt ymostwng ni ddifethaf hwy, ond rhoddaf gyfle iddynt ddianc, ac ni thywelltir fy llid ar Jerwsalem trwy law Sisac.