2 Chronicles 12:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem, ac a gymerth drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd y tarianau aur a wnaethai Solomon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem, a dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol — cymerodd y cwbl, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem a dwyn holl drysorau tu375?'r ARGLWYDD a thrysorau tu375?'r brenin, a dwyn hefyd y tarianau aur a wnaeth Solomon.