2 Chronicles 13:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y maent hwy yn llosgi i'r ARGLWYDD boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a'r canhwyllbren aur a'i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr ARGLWYDD ein DUW; ond chwi a'i gwrthodasoch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy'n rhoi'r bara i'w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau'r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda'r nos. Dŷn ni'n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn llosgi poethoffrymau ac arogldarth peraidd i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr, ac yn trefnu'r bara gosod ar y bwrdd dihalog a chynnau'r lampau yn y canhwyllbren aur bob prynhawn. Oherwydd yr ydym ni'n dal i wasanaethu'r ARGLWYDD ein Duw; ond yr ydych chwi wedi ei wrthod.