2 Chronicles 13:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr ARGLWYDD, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A nawr dyma chi yn bwriadu sefyll yn erbyn teyrnas yr ARGLWYDD sydd wedi cael ei rhoi i ddisgynyddion Dafydd. Dych chi'n llu mawr gyda'r ddau darw aur mae Jeroboam wedi gwneud i fod yn dduwiau i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, yr ydych chwi'n bwriadu gwrthsefyll teyrnas yr ARGLWYDD, sydd wedi ei rhoi i feibion Dafydd, am eich bod yn niferus iawn ac yn berchen ar y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.