2 Chronicles 13:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr ARGLWYDD, meibion Aaron, a'r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i'w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i'r rhai nid ydynt dduwiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi wedi cael gwared a'r offeiriaid, meibion Aaron a'r Lefiaid, ac wedi gwneud offeiriaid eraill i chi'ch hunain fel y cenhedloedd. Bellach mae unrhyw un sy'n dod i gysegru ei hunan gyda tarw ifanc a saith hwrdd yn cael bod yn offeiriad i'r duw sydd ddim yn dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid ydych wedi diarddel offeiriaid yr ARGLWYDD, meibion Aaron, a'r Lefiaid, ac ethol eich offeiriaid eich hunain, fel y gwna pobl gwledydd eraill? Y mae pwy bynnag sy'n dod i'w gysegru ei hun bustach ifanc a saith o hyrddod yn mynd yn offeiriad i'r un nad yw'n dduw.