2 Chronicles 14:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Abeia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e'n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fu farw Abeia, a'i gladdu yn Ninas Dafydd, daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le. Yn ystod ei deyrnasiad ef cafodd y wlad lonydd am ddeng mlynedd.