2 Chronicles 14:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o'n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr ARGLWYDD ein DUW, ni a'i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r trefi yma gyda waliau a thyrau o'u cwmpas, a giatiau gyda barrau i'w cloi. Mae'r wlad yma'n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi ei geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw'n adeiladu ac roedden nhw'n llwyddiannus iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth Jwda, "Gadewch i ni adeiladu'r dinasoedd hyn a'u hamgylchu muriau gyda thyrau, a dorau a barrau. Y mae'r wlad yn dal yn agored o'n blaen am i ni geisio'r ARGLWYDD ein Duw. Yr ydym ni wedi ei geisio ef, ac y mae yntau wedi rhoi heddwch i ni oddi amgylch." Felly, adeiladodd y bobl a llwyddo.