2 Chronicles 15:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac a'i drylliodd, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei falu'n fân, a'i losgi wrth Nant Cidron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron.