2 Chronicles 15:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o'r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr ARGLWYDD, yr hon oedd o flaen porth yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Asa'n teimlo'n llawer mwy hyderus ar ôl clywed beth ddwedodd y proffwyd Oded. Dyma fe'n cael gwared â'r holl eilunod ffiaidd oedd yn Jwda a Benjamin a'r trefi roedd wedi eu concro ym mryniau Effraim. Yna dyma fe'n trwsio'r allor oedd o flaen cyntedd teml yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac ad-newyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.