2 Chronicles 15:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a'r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr ARGLWYDD ei DDUW gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Casglodd bobl Jwda a Benjamin at ei gilydd, gyda phobl llwythau Effraim, Manasse a Simeon oedd wedi dod atyn nhw i fyw (Roedd llawer iawn o bobl wedi symud o Israel i Jwda ar ôl gweld fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag Asa.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef.