2 Chronicles 16:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.