2 Chronicles 16:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n taro Ïon, Dan, Abel-maim a canolfannau storfeydd Nafftali.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, i ymosod ar Ijon, Dan ac Abel-maim, ac ar holl ddinasoedd str Nafftali.