2 Chronicles 16:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr ARGLWYDD, efe a'u rhoddodd hwynt yn dy law di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oedd gan yr Affricaniaid a'r Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystio'r ARGLWYDD dyma fe'n gadael i ti ennill y frwydr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Libyaid yn llu aneirif a chanddynt lawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am i ti ymddiried yn yr ARGLWYDD, rhoddodd ef hwy yn dy law.