2 Chronicles 17:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac arswyd yr ARGLWYDD oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.