2 Chronicles 17:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.