2 Chronicles 18:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, "Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?" A dywedodd wrtho, "Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw."