2 Chronicles 18:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn tangnefedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Michea'n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau, fel defaid heb fugail. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Does ganddyn nhw ddim meistri. Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Michea: "Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau fel defaid heb fugail ganddynt. A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Nid oes feistr ar y rhain; felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.'"