2 Chronicles 18:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, "Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?"