2 Chronicles 18:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a'm pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, "A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?" Atebodd yntau, "Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel."