2 Chronicles 18:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r capteiniaid oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, "Peidiwch ag ymladd neb, bach na mawr, ond brenin Israel yn unig."