2 Chronicles 18:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o'r gad; canys fe'm clwyfwyd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, "Tro'n l, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo."