2 Chronicles 18:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r ARGLWYDD: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oes, y mae un gu373?r eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg." Dywedodd Jehosaffat, "Peidied y brenin dweud fel yna."