2 Chronicles 19:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i'r ARGLWYDD; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i'r brenin; a'r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a'r ARGLWYDD fydd gyda'r daionus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Amareia'r offeiriad fydd â'r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda popeth sy'n ymwneud â'r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda'r rhai sy'n gwneud job dda ohoni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amareia yr archoffeiriad fydd ag awdurdod drosoch ym mhob peth sy'n ymwneud 'r ARGLWYDD, a Sebadeia fab Ismael, llywodraethwr tu375? Jwda, ym mhob peth sy'n ymwneud 'r brenin; y Lefiaid fydd yn swyddogion i chwi. Ymwrolwch a gwnewch fel hyn; bydded yr ARGLWYDD gyda'r daionus."