2 Chronicles 19:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr ARGLWYDD; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi'n wneud. Dim plesio pobl ydy'ch gwaith chi. Dych chi'n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud wrthynt, "Gofalwch sut yr ydych yn ymddwyn, oherwydd nid yn enw neb meidrol ond yn enw'r ARGLWYDD yr ydych yn barnu, a bydd ef gyda chwi pan farnwch.