2 Chronicles 2:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, i'th weision, i'r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna i dalu i dy weision di am dorri'r coed — dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe roddaf i'th weision, sef y coedwigwyr sy'n torri'r coed, ugain mil o corusau o wenith wedi ei falu, ugain mil o corusau o haidd, ugain mil o bathau o win ac ugain mil o bathau o olew."