2 Chronicles 2:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a'i hanfonodd at Solomon, O gariad yr ARGLWYDD ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd Hiram brenin Tyrus yr ateb hwn i Solomon mewn llythyr: "Am i'r ARGLWYDD garu ei bobl, fe'th wnaeth di'n frenin arnynt.