2 Chronicles 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab gwraig o ferched Dan, a'i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda'th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e'n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae'n gallu cerfio unrhyw gynllun sy'n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a'r rhai ddewisodd Dafydd dy dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
mab ydyw i un o ferched Dan, a'i dad yn hanu o Tyrus. Y mae wedi ei hyfforddi i weithio mewn aur, arian, pres, haearn, cerrig a choed, yn ogystal defnydd porffor ac ysgarlad, sidan glas, a lliain main; gu373?yr hefyd sut i gerfio unrhyw beth, a sut i weithio yn l unrhyw batrwm a roddir iddo. Gad iddo ymuno 'th grefftwyr di a chrefftwyr f'arglwydd Dafydd, dy dad.