2 Chronicles 2:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy NUW, i'w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef, ac i'r gwastadol osodiad bara, a'r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr ARGLWYDD ein DUW ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Bydd yn cael ei chysegru i losgi arogldarth persawrus iddo, gosod y bara o'i flaen, a chyflwyno offrymau sydd i'w llosgi'n llwyr iddo bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill mae'r ARGLWYDD ein Duw yn eu pennu. Mae pobl Israel i fod i wneud y pethau yma bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi am adeiladu tu375? i enw'r ARGLWYDD fy Nuw a'i gysegru iddo, er mwyn llosgi arogldarth peraidd a rhoi'r bara gosod o'i flaen yn rheolaidd, a gwneud poethoffrymau fore a hwyr, ar y Sabothau, y newydd-loerau a gwyliau penodedig yr ARGLWYDD ein Duw; oherwydd y mae hon yn ddeddf i'w chadw gan Israel am byth.