2 Chronicles 2:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda'r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Anfon grefftwr medrus ata i sy'n gweithio gydag aur, arian, pres a haearn, a hefyd lliain porffor, coch a glas, ac yn gallu cerfio. Gall e weithio gyda'r crefftwyr sydd gen i yma yn Jerwsalem a Jwda, y rhai wnaeth fy nhad Dafydd eu dewis.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, anfon ataf grefftwr medrus i weithio mewn aur, arian, pres a haearn, ac mewn defnydd porffor ac ysgarlad, a sidan glas, un sydd hefyd yn gerfiwr cywrain, er mwyn iddo ymuno 'r crefftwyr a benododd fy nhad Dafydd, ac sydd gennyf yn Jwda a Jerwsalem.