2 Chronicles 20:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem, a'r Brenin Jehosaffat. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a peidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd, "Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd 'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.