2 Chronicles 20:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a'r ARGLWYDD fydd gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na panicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae'r ARGLWYDD gyda chi!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi."