2 Chronicles 20:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o'r tu hwnt i'r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i'r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth rhywrai at Jehosaffat a dweud wrtho, "Y mae mintai fawr yn dod yn dy erbyn o Edom, o'r ochr draw i'r mr, ac y mae hi eisoes yn Hasason-tamar" (hynny yw, En-gedi).