2 Chronicles 20:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i'w difrodi, ac i'w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a'u dinistrio nhw'n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw'n ymosod ar ei gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trodd yr Ammoniaid a'r Moabiaid i ymosod ar drigolion Mynydd Seir, a'u difa'n llwyr; ac wedi iddynt eu difodi hwy aethant ymlaen i ddifetha'i gilydd.